15. Ond dyma Elias yn addo iddo, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn fyw (y Duw dw i'n ei wasanaethu), bydda i'n cyfarfod Ahab heddiw.”
16. Felly dyma Obadeia'n mynd i ddweud wrth Ahab. A dyma Ahab yn dod i gyfarfod Elias.
17. Pan welodd Ahab Elias dyma fe'n dweud, “Ai ti ydy e go iawn – yr un sy'n creu helynt i Israel?”
18. Dyma Elias yn ateb, “Nid fi sydd wedi creu helynt i Israel. Ti a theulu dy dad sydd wedi gwrthod gwneud beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, a ti wedi addoli delwau o Baal!
19. “Dw i eisiau i ti gasglu pobl Israel i gyd at ei gilydd wrth fynydd Carmel. Tyrd â'r holl broffwydi mae Jesebel yn eu cynnal yno – pedwar cant pum deg o broffwydi Baal a pedwar cant o broffwydi'r dduwies Ashera.”
20. Felly dyma Ahab yn anfon neges at holl bobl Israel, a dod â'r proffwydi i gyd at ei gilydd i fynydd Carmel.
21. Dyma Elias yn sefyll o flaen y bobl i gyd a gofyn iddyn nhw, “Am faint mwy dych chi'n mynd i eistedd ar y ffens? Os mai'r ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn, dilynwch e, ond os mai Baal ydy e, dilynwch hwnnw!”Ddwedodd neb yr un gair.