Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 18:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ar ôl amser hir, yn ystod y drydedd flwyddyn o sychder, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Elias. “Dos, a dangos dy hun i Ahab. Dw i'n mynd i anfon glaw ar y tir.”

2. Felly dyma Elias yn mynd i weld Ahab.Roedd y newyn yn ddrwg iawn yn Samaria ar y pryd.

3. Felly dyma Ahab yn galw Obadeia, y swyddog oedd yn gyfrifol am redeg y palas. (Roedd Obadeia yn ddyn oedd yn addoli'r ARGLWYDD yn ffyddlon.

4. Pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD, roedd Obadeia wedi cymryd cant o broffwydi a'u cuddio nhw fesul pum deg mewn dwy ogof. Ac roedd yn rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr i'w yfed.)

5. Dyma Ahab yn dweud wrth Obadeia, “Rhaid i ni fynd trwy'r wlad i gyd, at bob ffynnon a nant. Falle y down ni o hyd i ychydig borfa i gadw'r ceffylau a'r mulod yn fyw, yn lle bod rhaid i ni golli pob un anifail.”

6. Dyma nhw'n rhannu'r wlad gyfan rhyngddyn nhw. A dyma Ahab yn mynd i un cyfeiriad ac Obadeia yn mynd y ffordd arall.

7. Wrth i Obadeia fynd ar ei ffordd dyma Elias yn dod i'w gyfarfod. Dyma Obadeia'n nabod Elias, a dyma fe'n plygu ar ei liniau o'i flaen a dweud, “Ai ti ydy e go iawn, fy meistr, Elias?”

8. “Ie, fi ydy e,” meddai Elias. “Dos i ddweud wrth dy feistr fy mod i yn ôl.”

9. Ond dyma Obadeia'n dweud, “Beth dw i wedi'i wneud o'i le? Wyt ti eisiau i Ahab fy lladd i?

10. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, mae fy meistr wedi anfon i bob gwlad a theyrnas i chwilio amdanat ti! Os dŷn nhw'n dweud dy fod ti ddim yno, mae'n gwneud iddyn dyngu llw eu bod nhw heb ddod o hyd i ti.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 18