2. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho,
3. “Dos i ffwrdd i'r dwyrain. Dos i guddio wrth ymyl Nant Cerith yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.
4. Cei ddŵr i'w yfed o'r nant, a dw i wedi dweud wrth y cigfrain am ddod â bwyd i ti yno.”
5. Dyma Elias yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, a mynd i fyw wrth Nant Cerith yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.
6. Roedd cigfrain yn dod â bara a chig iddo bob bore a gyda'r nos, ac roedd yn yfed dŵr o'r nant.
7. Ond ar ôl peth amser dyma'r nant yn sychu am ei bod hi heb fwrw glaw yn y wlad o gwbl.
8. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho,
9. “Cod, a dos i fyw i Sareffath yn ardal Sidon. Dw i wedi dweud wrth wraig weddw sy'n byw yno i roi bwyd i ti.”
10. Felly dyma Elias yn mynd i Sareffath. Pan gyrhaeddodd giatiau'r dref gwelodd wraig weddw yn casglu coed tân. Dyma fe'n galw arni, “Plîs wnei di roi ychydig o ddŵr i mi i'w yfed.”
11. Wrth iddi fynd i nôl peth dyma fe'n galw ar ei hôl, “Wnei di ddod â rhywbeth bach i mi i'w fwyta hefyd?”
12. Ond dyma hi'n ateb, “Wir i ti, mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, does gen i ddim byd. Llond dwrn o flawd mewn potyn ac ychydig o olew olewydd mewn jwg sydd gen i ar ôl. Roeddwn i wrthi'n casglu ychydig o goed tân i wneud un pryd bwyd olaf i mi a'm mab. Ar ôl i ni fwyta hwnnw byddwn ni'n llwgu.”
13. Ond dyma Elias yn dweud wrthi, “Paid bod ag ofn. Dos i wneud hynny. Ond gwna fymryn o fara i mi gyntaf, a tyrd ag e allan yma. Cei baratoi rhywbeth i ti a dy fab wedyn.
14. Achos dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Ddaw'r blawd yn y potyn ddim i ben, a fydd yr olew yn y jar ddim yn darfod nes bydd yr ARGLWYDD wedi anfon glaw unwaith eto.”
15. Felly dyma hi'n mynd a gwneud fel roedd Elias wedi dweud wrthi. Ac roedd digon o fwyd bob dydd i Elias ac iddi hi a'i theulu.
16. Ddaeth y blawd yn y potyn ddim i ben, a wnaeth yr olew yn y jar ddim darfod, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo trwy Elias.
17. Beth amser wedyn dyma fab y wraig oedd biau'r tŷ yn cael ei daro'n wael. Aeth o ddrwg i waeth, nes yn y diwedd iddo stopio anadlu.
18. A dyma'r wraig yn dweud wrth Elias, “Pa ddrwg dw i wedi ei wneud i ti, broffwyd Duw? Wyt ti wedi dod yma i'm cosbi i am fy mhechod a lladd fy mab?”
19. Dyma Elias yn ateb, “Rho dy fab i mi.” A dyma fe'n cymryd y bachgen o'i breichiau, a'i gario i fyny i'r llofft lle roedd yn aros, a'i roi i orwedd ar y gwely.
20. Yna dyma fe'n galw ar yr ARGLWYDD, “O ARGLWYDD fy Nuw, wyt ti wir am wneud drwg i'r weddw yma sydd wedi rhoi llety i mi, drwy ladd ei mab hi?”
21. A dyma fe'n ymestyn ei hun dros y bachgen dair gwaith, a galw ar yr ARGLWYDD: “O ARGLWYDD, fy Nuw, plîs tyrd â'r bachgen yma yn ôl yn fyw!”