Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 17:15-22 beibl.net 2015 (BNET)

15. Felly dyma hi'n mynd a gwneud fel roedd Elias wedi dweud wrthi. Ac roedd digon o fwyd bob dydd i Elias ac iddi hi a'i theulu.

16. Ddaeth y blawd yn y potyn ddim i ben, a wnaeth yr olew yn y jar ddim darfod, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo trwy Elias.

17. Beth amser wedyn dyma fab y wraig oedd biau'r tŷ yn cael ei daro'n wael. Aeth o ddrwg i waeth, nes yn y diwedd iddo stopio anadlu.

18. A dyma'r wraig yn dweud wrth Elias, “Pa ddrwg dw i wedi ei wneud i ti, broffwyd Duw? Wyt ti wedi dod yma i'm cosbi i am fy mhechod a lladd fy mab?”

19. Dyma Elias yn ateb, “Rho dy fab i mi.” A dyma fe'n cymryd y bachgen o'i breichiau, a'i gario i fyny i'r llofft lle roedd yn aros, a'i roi i orwedd ar y gwely.

20. Yna dyma fe'n galw ar yr ARGLWYDD, “O ARGLWYDD fy Nuw, wyt ti wir am wneud drwg i'r weddw yma sydd wedi rhoi llety i mi, drwy ladd ei mab hi?”

21. A dyma fe'n ymestyn ei hun dros y bachgen dair gwaith, a galw ar yr ARGLWYDD: “O ARGLWYDD, fy Nuw, plîs tyrd â'r bachgen yma yn ôl yn fyw!”

22. A dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Elias, a dyma'r bachgen yn dechrau anadlu eto. Roedd yn fyw!

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 17