Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 17:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Elias, o Tishbe yn Gilead, yn dweud wrth Ahab, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn fyw (y Duw dw i'n ei addoli), fydd yna ddim gwlith na glaw y blynyddoedd nesaf yma nes i mi ddweud yn wahanol.”

2. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho,

3. “Dos i ffwrdd i'r dwyrain. Dos i guddio wrth ymyl Nant Cerith yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.

4. Cei ddŵr i'w yfed o'r nant, a dw i wedi dweud wrth y cigfrain am ddod â bwyd i ti yno.”

5. Dyma Elias yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, a mynd i fyw wrth Nant Cerith yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.

6. Roedd cigfrain yn dod â bara a chig iddo bob bore a gyda'r nos, ac roedd yn yfed dŵr o'r nant.

7. Ond ar ôl peth amser dyma'r nant yn sychu am ei bod hi heb fwrw glaw yn y wlad o gwbl.

8. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho,

9. “Cod, a dos i fyw i Sareffath yn ardal Sidon. Dw i wedi dweud wrth wraig weddw sy'n byw yno i roi bwyd i ti.”

10. Felly dyma Elias yn mynd i Sareffath. Pan gyrhaeddodd giatiau'r dref gwelodd wraig weddw yn casglu coed tân. Dyma fe'n galw arni, “Plîs wnei di roi ychydig o ddŵr i mi i'w yfed.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 17