Ond dyma Simri, un o'i swyddogion oedd yn gapten ar hanner y cerbydau rhyfel, yn cynllwyn yn ei erbyn. Roedd y brenin wedi meddwi ar ôl bod yn yfed yn drwm yn nhŷ Arsa (sef prif swyddog palas y brenin yn Tirtsa).