Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 15:21-34 beibl.net 2015 (BNET)

21. Pan glywodd Baasha am y peth, dyma fe'n stopio adeiladu Rama a symud ei fyddin yn ôl i Tirtsa.

22. Yna dyma'r brenin Asa yn gorchymyn i bobl Jwda – pawb yn ddieithriad – i fynd i nôl y cerrig a'r coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. Yna dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa.

23. Mae gweddill hanes Asa, ei lwyddiant milwrol a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, a rhestr o'r holl drefi wnaeth e eu hadeiladu, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Ond pan oedd yn hen roedd Asa'n dioddef yn ddifrifol o'r gowt.

24. Pan fuodd Asa farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le.

25. Yn ystod ail flwyddyn Asa yn frenin ar Jwda, cafodd Nadab, mab Jeroboam, ei wneud yn frenin Israel. Bu Nadab yn frenin am ddwy flynedd.

26. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd yn ymddwyn fel ei dad, ac yn gwneud i Israel bechu.

27. Dyma Baasha fab Achïa o lwyth Issachar yn cynllwyn yn erbyn Nadab a'i lofruddio yn Gibbethon, ar dir y Philistiaid. Roedd Nadab a byddin Israel yn gwarchae ar Gibbethon ar y pryd.

28. Lladdodd Baasha fe yn ystod trydedd flwyddyn Asa fel brenin Jwda. A daeth Baasha yn frenin ar Israel yn lle Nadab.

29. Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma fe'n lladd pob aelod o deulu Jeroboam. Gafodd yr un enaid byw o'r teulu brenhinol ei adael ar ôl, fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio trwy ei was Achïa o Seilo.

30. Digwyddodd hyn o achos yr eilunod wnaeth Jeroboam eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Roedd wedi gwylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel.

31. Mae gweddill hanes Nadab, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

32. Roedd Asa, brenin Jwda, a Baasha, brenin Israel yn rhyfela yn erbyn ei gilydd drwy'r amser.

33. Yn ystod trydedd flwyddyn Asa fel brenin Jwda, daeth Baasha yn frenin ar Israel yn ninas Tirtsa. Bu Baasha'n frenin am ddau ddeg pedair o flynyddoedd.

34. Gwnaeth Baasha bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd yn ymddwyn fel Jeroboam, ac yn gwneud i Israel bechu.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 15