Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 15:18-24 beibl.net 2015 (BNET)

18. Felly dyma Asa yn cymryd y cwbl o'r arian a'r aur oedd ar ôl yn stordai teml yr ARGLWYDD a stordai palas y brenin, a'u rhoi i'w weision i fynd â'r cwbl i Ddamascus at Ben-hadad, brenin Syria (sef mab Tabrimon ac ŵyr Chesion), gyda'r neges yma:

19. “Dw i eisiau gwneud cytundeb heddwch gyda ti, fel roedd yn arfer bod rhwng fy nhad a dy dad di. Dw i'n anfon y rhodd yma o arian ac aur i ti. Dw i eisiau i ti dorri'r cytundeb sydd rhyngot ti a Baasha, brenin Israel, er mwyn iddo stopio ymosod arnon ni.”

20. Dyma Ben-hadad yn derbyn cynnig y brenin Asa, a dyma fe'n dweud wrth swyddogion ei fyddin am ymosod ar drefi Israel. Dyma nhw'n mynd ac yn taro Ïon, Dan, Abel-beth-maacha a tir llwyth Nafftali i gyd, gan gynnwys ardal Cinnereth.

21. Pan glywodd Baasha am y peth, dyma fe'n stopio adeiladu Rama a symud ei fyddin yn ôl i Tirtsa.

22. Yna dyma'r brenin Asa yn gorchymyn i bobl Jwda – pawb yn ddieithriad – i fynd i nôl y cerrig a'r coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. Yna dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa.

23. Mae gweddill hanes Asa, ei lwyddiant milwrol a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, a rhestr o'r holl drefi wnaeth e eu hadeiladu, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Ond pan oedd yn hen roedd Asa'n dioddef yn ddifrifol o'r gowt.

24. Pan fuodd Asa farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 15