Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 14:6-15 beibl.net 2015 (BNET)

6. Pan glywodd Achïa sŵn ei thraed hi wrth y drws, dyma fe'n galw, “Tyrd i mewn, wraig Jeroboam! Pam wyt ti'n cymryd arnat dy fod yn rhywun arall? Mae gen i newyddion drwg i ti.

7. Dos, a dweud wrth Jeroboam, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i wedi dy gymryd di o blith y bobl a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel.

8. Dw i wedi cymryd y deyrnas oddi ar deulu Dafydd a'i rhoi i ti. Ond yn wahanol i'm gwas Dafydd, dwyt ti ddim wedi cadw fy ngorchmynion a'm dilyn i o ddifri, a gwneud beth sy'n iawn gen i.

9. Ti wedi gwneud mwy o ddrwg na pawb aeth o dy flaen di. Ti wedi ngwylltio i drwy wneud duwiau eraill – delwau o fetel. Ti wedi fy nhaflu i o'r ffordd.

10. Felly dw i'n mynd i wneud drwg i dy linach brenhinol di Jeroboam.Bydda i'n cael gwared â phob dyn yn Israel,y caeth a'r rhydd.Bydda i'n carthu teulu brenhinol Jeroboamac yn llosgi'r carthion nes bod dim ar ôl!

11. Bydd pobl Jeroboam sy'n marw yn y ddinasyn cael eu bwyta gan y cŵn.Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwladyn cael eu bwyta gan yr adar!—dw i, yr ARGLWYDD wedi dweud!’

12. “Dos di adre. Pan fyddi'n cyrraedd y ddinas bydd y plentyn yn marw.

13. Bydd pobl Israel i gyd yn galaru ar ei ôl, ac yn dod i'w angladd. Fe fydd yr unig un o deulu Jeroboam fydd yn cael ei gladdu'n barchus, am mai fe ydy'r unig un o'r teulu mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi gweld unrhyw ddaioni ynddo.

14. Bydd yr ARGLWYDD yn codi brenin iddo'i hun fydd yn difa teulu Jeroboam yn llwyr. Bydd hyn yn digwydd ar unwaith! A beth ddaw wedyn?

15. Bydd yr ARGLWYDD yn taro Israel fel brwynen yn cael ei chwipio yn llif yr afon. Bydd yn ei thynnu o'r tir da yma roddodd i'w hynafiaid ac yn gyrru'r bobl ar chwâl yr ochr draw i Afon Ewffrates. Bydd yn gwneud hyn am eu bod wedi ei wylltio trwy godi polion pren i'r dduwies Ashera.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 14