Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 14:19-27 beibl.net 2015 (BNET)

19. Mae gweddill hanes Jeroboam, hanes ei ryfeloedd a'i deyrnasiad, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

20. Roedd Jeroboam wedi bod yn frenin am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. Ar ôl iddo farw daeth Nadab ei fab yn frenin yn ei le.

21. Rehoboam, mab Solomon, oedd brenin Jwda. Roedd yn bedwar deg un oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg saith o flynyddoedd (Jerwsalem – y ddinas roedd ARGLWYDD wedi ei dewis allan o holl lwythau Israel i fyw ynddi.) Naäma, gwraig o wlad Ammon, oedd mam Rehoboam.

22. Roedd pobl Jwda yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg ARGLWYDD, ac yn ei ddigio fwy nac roedd eu hynafiaid wedi gwneud.

23. Roedden nhw'n codi allorau lleol, yn codi colofnau cysegredig i Baal a pholion y dduwies Ashera ar yr allorau lleol oedd ar ben bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog.

24. Roedd yna hyd yn oed buteinwyr teml yn y wlad. Roedden nhw'n gwneud pethau cwbl ffiaidd, dim gwahanol i'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.

25. Yna, yn ystod pumed flwyddyn Rehoboam fel brenin dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem.

26. Dyma fe'n dwyn trysorau teml yr ARGLWYDD a palas y brenin – y cwbl i gyd, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi eu gwneud!

27. Dyma'r Brenin Rehoboam yn gwneud tariannau o bres yn eu lle, a'u rhoi nhw yng ngofal swyddogion y gwarchodlu oedd yn amddiffyn palas y brenin.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 14