Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 14:16-22 beibl.net 2015 (BNET)

16. Bydd yr ARGLWYDD yn troi ei gefn ar Israel o achos yr eilunod mae Jeroboam wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.”

17. Felly dyma wraig Jeroboam yn mynd yn ôl i Tirtsa. Wrth iddi gyrraedd drws y tŷ, dyma'r bachgen yn marw.

18. A dyma nhw'n ei gladdu a daeth Israel i gyd i alaru ar ei ôl, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud trwy ei was y proffwyd Achïa.

19. Mae gweddill hanes Jeroboam, hanes ei ryfeloedd a'i deyrnasiad, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

20. Roedd Jeroboam wedi bod yn frenin am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. Ar ôl iddo farw daeth Nadab ei fab yn frenin yn ei le.

21. Rehoboam, mab Solomon, oedd brenin Jwda. Roedd yn bedwar deg un oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg saith o flynyddoedd (Jerwsalem – y ddinas roedd ARGLWYDD wedi ei dewis allan o holl lwythau Israel i fyw ynddi.) Naäma, gwraig o wlad Ammon, oedd mam Rehoboam.

22. Roedd pobl Jwda yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg ARGLWYDD, ac yn ei ddigio fwy nac roedd eu hynafiaid wedi gwneud.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 14