Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 14:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yr adeg yna dyma Abeia, mab Jeroboam, yn cael ei daro'n wael.

2. A dyma Jeroboam yn dweud wrth ei wraig, “Rho ddillad gwahanol amdanat fel bod neb yn gwybod mai ngwraig i wyt ti. Yna dos i Seilo, ble mae'r proffwyd Achïa yn byw. Fe oedd y proffwyd ddwedodd wrtho i y byddwn ni'n frenin ar y bobl yma.

3. Cymer ddeg torth, bisgedi a phot o fêl i'w rhoi iddo. Bydd e'n dweud wrthot ti beth sy'n mynd i ddigwydd i'r bachgen.”

4. Felly dyma wraig Jeroboam yn gwneud fel roedd ei gŵr wedi dweud wrthi, a mynd i dŷ Achïa yn Seilo. Roedd Achïa yn ddall, wedi colli ei olwg yn ei henaint.

5. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Mae gwraig Jeroboam yn dod atat ti i holi ynglŷn â'i mab sy'n sâl. Pan ddaw hi bydd yn cymryd arni fod yn rhywun arall. Dyma beth rwyt ti i'w ddweud wrthi: …”

6. Pan glywodd Achïa sŵn ei thraed hi wrth y drws, dyma fe'n galw, “Tyrd i mewn, wraig Jeroboam! Pam wyt ti'n cymryd arnat dy fod yn rhywun arall? Mae gen i newyddion drwg i ti.

7. Dos, a dweud wrth Jeroboam, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i wedi dy gymryd di o blith y bobl a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel.

8. Dw i wedi cymryd y deyrnas oddi ar deulu Dafydd a'i rhoi i ti. Ond yn wahanol i'm gwas Dafydd, dwyt ti ddim wedi cadw fy ngorchmynion a'm dilyn i o ddifri, a gwneud beth sy'n iawn gen i.

9. Ti wedi gwneud mwy o ddrwg na pawb aeth o dy flaen di. Ti wedi ngwylltio i drwy wneud duwiau eraill – delwau o fetel. Ti wedi fy nhaflu i o'r ffordd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 14