Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 13:15-28 beibl.net 2015 (BNET)

15. Yna dyma fe'n dweud wrtho, “Tyrd adre gyda mi am damaid o fwyd.”

16. Ond dyma'r proffwyd yn ateb, “Alla i ddim mynd yn ôl gyda ti, na bwyta ac yfed dim yn y lle yma.

17. Achos dwedodd yr ARGLWYDD yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta dim nac yfed dŵr yno, a paid mynd adre'r ffordd aethost ti yno.’”

18. Ond dyma'r hen broffwyd yn dweud, “Dw i hefyd yn broffwyd fel ti. Mae angel wedi rhoi neges i mi gan yr ARGLWYDD yn dweud wrtho i am fynd â ti yn ôl adre gyda mi i ti gael rhywbeth i'w fwyta a'i yfed.” Ond dweud celwydd oedd e.

19. Felly dyma'r proffwyd o Bethel yn mynd yn ôl gydag e i gael bwyd a diod yn ei dŷ.

20. Tra roedden nhw'n bwyta dyma'r hen broffwyd oedd wedi ei ddenu'n ôl yn cael neges gan yr ARGLWYDD, ac

21. yn dweud wrth y proffwyd o Jwda, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Ti wedi bod yn anufudd, a ddim wedi gwrando ar y gorchymyn roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti.

22. Ti wedi dod yn ôl i fwyta ac yfed yn y lle yma, er ei fod wedi dweud wrthot ti am beidio gwneud hynny. Felly fydd dy gorff di ddim yn cael ei gladdu ym medd dy deulu.’”

23. Ar ôl iddo orffen bwyta, dyma'r hen broffwyd o Bethel yn cyfrwyo ei asyn i'r proffwyd o Jwda.

24. Pan oedd ar ei ffordd, dyma lew yn ymosod arno a'i ladd. Dyna lle roedd ei gorff yn gorwedd ar ochr y ffordd, a'r asyn a'r llew yn sefyll wrth ei ymyl.

25. Dyma ryw bobl oedd yn digwydd mynd heibio yn gweld y corff ar ochr y ffordd a'r llew yn sefyll wrth ei ymyl. A dyma nhw'n sôn am y peth yn y dre lle roedd yr hen broffwyd yn byw.

26. Pan glywodd yr hen broffwyd am y peth, dyma fe'n dweud, “Y proffwyd fuodd yn anufudd i'r ARGLWYDD ydy e. Mae'r ARGLWYDD wedi gadael i lew ei larpio a'i ladd, yn union fel gwnaeth e ddweud.”

27. Dyma fe'n gofyn i'w feibion gyfrwyo ei asyn iddo. Wedi iddyn nhw wneud hynny

28. dyma fe'n mynd a dod o hyd i'r corff ar ochr y ffordd, gyda'r llew a'r asyn yn sefyll wrth ei ymyl. (Doedd y llew ddim wedi bwyta'r corff nag ymosod ar yr asyn.)

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 13