Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 11:25-32 beibl.net 2015 (BNET)

25. Roedd yn elyn i Israel trwy gydol cyfnod Solomon ac yn gwneud gymaint o ddrwg â Hadad. Roedd yn gas ganddo Israel. Fe oedd yn frenin ar Syria.

26. Un arall wnaeth droi yn erbyn y brenin Solomon oedd Jeroboam, un o'i swyddogion. Roedd Jeroboam fab Nebat yn dod o Sereda yn Effraim, ac roedd ei fam, SerĊµa, yn wraig weddw.

27. Dyma'r hanes pam wnaeth e wrthryfela yn erbyn y brenin: Roedd Solomon wedi bod yn adeiladu'r terasau, ac wedi trwsio'r bylchau oedd yn wal dinas ei dad Dafydd.

28. Roedd hi'n amlwg fod Jeroboam yn ddyn abl. Pan welodd Solomon fod y dyn ifanc yma yn weithiwr da, dyma fe'n ei wneud yn fforman ar y gweithwyr o lwyth Joseff.

29. Un diwrnod roedd Jeroboam wedi mynd allan o Jerwsalem. A dyma'r proffwyd Achïa o Seilo yn ei gyfarfod ar y ffordd, yn gwisgo mantell newydd sbon. Roedd y ddau ar eu pennau hunan yng nghefn gwlad.

30. Dyma Achïa yn cymryd y fantell, a'i rhwygo yn un deg dau o ddarnau.

31. A dyma fe'n dweud wrth Jeroboam, “Cymer di ddeg darn. Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i am gymryd teyrnas Israel oddi ar Solomon, a rhoi deg llwyth i ti.

32. Bydd un llwyth yn cael ei gadael iddo fe, o barch at Dafydd fy ngwas, ac at Jerwsalem, y ddinas dw i wedi ei dewis o'r llwythau i gyd i fod yn ddinas i mi.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 11