13. Ond wna i ddim ei chymryd hi i gyd. Dw i am adael un llwyth i dy fab o barch at fy ngwas Dafydd, a Jerwsalem, y ddinas dw i wedi ei dewis.”
14. Yna dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i Hadad, o deulu brenhinol Edom, godi yn erbyn Solomon.
15. Yn ôl yn y cyfnod pan oedd Dafydd yn ymladd Edom roedd Joab, pennaeth ei fyddin, wedi lladd dynion Edom i gyd. Roedd wedi mynd yno i gladdu milwyr Israel oedd wedi syrthio yn y frwydr.
16. Arhosodd Joab a byddin Israel yno am chwe mis, nes bod dynion Edom i gyd wedi eu lladd.
17. Ond roedd Hadad wedi dianc, ac aeth i'r Aifft gyda rhai o swyddogion ei dad (Dim ond bachgen ifanc oedd e ar y pryd).
18. Aethon nhw o Midian i Paran, lle'r ymunodd dynion eraill gyda nhw, cyn mynd ymlaen i'r Aifft. Dyma nhw'n mynd at y Pharo, brenin yr Aifft, a chael lle i fyw, bwyd, a hyd yn oed peth tir ganddo.
19. Roedd y Pharo'n hoff iawn o Hadad, a dyma fe'n rhoi ei chwaer-yng-nghyfraith (sef chwaer y Frenhines Tachpenes) yn wraig iddo.
20. Cafodd chwaer Tachpenes fab i Hadad, a'i alw yn Genwbath. Ond trefnodd Tachpenes i Genwbath gael ei fagu yn y palas brenhinol gyda plant y Pharo ei hun.
21. Pan glywodd Hadad fod Dafydd wedi marw, a Joab capten byddin Israel hefyd, dyma fe'n gofyn i'r Pharo, “Wnei di adael i mi fynd adre i'm gwlad fy hun?”
22. A dyma'r Pharo'n gofyn, “Pam? Beth wyt ti'n brin ohono dy fod eisiau mynd i dy wlad dy hun?”“Dim o gwbl,” atebodd Hadad, “ond plîs gad i mi fynd.”
23. Gelyn arall wnaeth Duw ei godi yn erbyn Solomon oedd Reson, mab Eliada. Roedd Reson wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei feistr, y Brenin Hadadeser o Soba.
24. Roedd wedi casglu criw o ddynion o'i gwmpas ac yn arwain gang o wrthryfelwyr. Pan goncrodd Dafydd Soba, roedd Reson a'i wŷr wedi dianc ac yna wedi cipio Damascus, a cafodd ei wneud yn frenin yno.
25. Roedd yn elyn i Israel trwy gydol cyfnod Solomon ac yn gwneud gymaint o ddrwg â Hadad. Roedd yn gas ganddo Israel. Fe oedd yn frenin ar Syria.