Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 11:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Cafodd y Brenin Solomon berthynas gyda lot fawr o ferched o wledydd eraill. Yn ogystal â merch y Pharo, roedd ganddo gariadon o Moab, Ammon, Edom, Sidon ac o blith yr Hethiaid.

2. Dyma'r gwledydd roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio pobl Israel amdanyn nhw: “Peidiwch cael perthynas gyda nhw. Maen nhw'n siŵr o'ch denu chi ar ôl eu duwiau.” Ond roedd Solomon yn dal i gael perthynas rywiol gyda nhw i gyd.

3. Roedd ganddo saith gant o wragedd a thri chant o gariadon. Ac roedden nhw'n ei arwain ar gyfeiliorn.

4. Wrth iddo fynd yn hŷn dyma ei wragedd yn ei ddenu ar ôl duwiau dieithr. Doedd e ddim yn gwbl ffyddlon i'r ARGLWYDD fel roedd Dafydd ei dad.

5. Aeth Solomon i addoli Ashtart, duwies y Sidoniaid, a Milcom, eilun ffiaidd pobl Ammon.

6. Roedd yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Doedd e ddim yn ei ddilyn yn ffyddlon fel gwnaeth ei dad Dafydd.

7. Aeth Solomon mor bell â chodi allor baganaidd i addoli Chemosh (eilun ffiaidd Moab) a Molech (eilun ffiaidd yr Ammoniaid) ar ben y bryn sydd i'r dwyrain o Jerwsalem.

8. Roedd yn gwneud yr un peth i bob un o'i wragedd, iddyn nhw allu llosgi arogldarth ac aberthu anifeiliaid i'w duwiau.

9. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda Solomon am ei fod wedi troi i fwrdd oddi wrtho. Yr ARGLWYDD oedd e, Duw Israel oedd wedi dod at Solomon ddwywaith,

10. a'i siarsio i beidio gwneud hyn a mynd ar ôl duwiau eraill. Ond doedd Solomon ddim wedi gwrando.

11. Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Solomon, “Am dy fod ti'n ymddwyn fel yma, ac yn cymryd dim sylw o'r ymrwymiad wnes i a'r rheolau rois i i ti, dw i'n mynd i gymryd y deyrnas oddi arnat ti a'i rhoi hi i dy was.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 11