9. Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth dy ddewis di i eistedd ar orsedd Israel! Mae wedi dy wneud di yn frenin am ei fod yn caru Israel, i ti lywodraethu'n gyfiawn ac yn deg.”
10. A dyma hi'n rhoi pedair tunnell a hanner o aur, llwythi o sbeisiau a gemau gwerthfawr i'r brenin. Welwyd erioed gymaint o berlysiau a'r hyn roedd brenhines Sheba wedi ei roi i'r Brenin Solomon.
11. (Hefyd roedd llongau Hiram, oedd yn cario aur o Offir, wedi dod â llwythi lawer o goed arbennig, sef pren Almug, a gemau gwerthfawr.
12. Dyma'r brenin yn gwneud grisiau i deml yr ARGLWYDD a palas y brenin o'r pren Almug, a hefyd telynau a nablau i'r cerddorion. Does neb wedi gweld cymaint o bren Almug ers hynny!)
13. Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn rhoi i frenhines Sheba bopeth roedd hi'n gofyn amdano. Roedd hyn ar ben y cwbl roedd e wedi ei roi iddi o'i haelioni ei hun. Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre i'w gwlad ei hun gyda'i gweision.
14. Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell o aur bob blwyddyn,
15. heb gyfri'r hyn roedd yn ei dderbyn mewn trethi gan fasnachwyr, y farchnad sbeis, brenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y rhanbarthau.