Roedd brenhines Sheba wedi'i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. Hefyd wrth weld y palas roedd wedi ei adeiladu, y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a'r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i'r ARGLWYDD yn y deml.