Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 1:26-41 beibl.net 2015 (BNET)

26. Ond wnaeth e ddim rhoi gwahoddiad i mi, dy was di, nac i Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, nac i dy was Solomon chwaith.

27. Ydy fy meistr, y brenin, wedi gwneud hyn heb ddweud wrthon ni pwy oedd i deyrnasu ar dy ôl di?”

28. Yna dyma'r Brenin Dafydd yn dweud, “Galwch Bathseba yn ôl yma!”A dyma hi'n dod ac yn sefyll o'i flaen.

29. Dyma'r brenin yn addo, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un sydd wedi fy achub i o bob helynt:

30. fel gwnes i addo i ti o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel, dw i'n dweud eto heddiw mai dy fab di, Solomon, sydd i fod yn frenin ar fy ôl i. Fe sydd i eistedd ar yr orsedd yn fy lle i.”

31. Dyma Bathseba'n plygu'n isel o flaen y brenin, a dweud, “Fy Mrenin Dafydd, boed i ti fyw am byth!”

32. Yna dyma'r Brenin Dafydd yn dweud, “Galwch Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada yma.”Wedi iddyn nhw ddod,

33. dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Cymerwch fy ngweision i gyd gyda chi, rhowch Solomon i farchogaeth ar gefn fy mul i, ac ewch â fe i lawr i Gihon.

34. Yno, dych chi, Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd, i'w eneinio'n frenin ar Israel. Yna dych chi i chwythu'r corn hwrdd a gweiddi, ‘Hir oes i'r Brenin Solomon!’

35. Wedyn dewch ag e yn ôl yma i eistedd ar fy ngorsedd i. Fe ydy'r un fydd yn frenin yn fy lle i. Dw i wedi gorchymyn mai fe sydd i deyrnasu ar Israel a Jwda.”

36. A dyma Benaia fab Jehoiada yn ateb y brenin, “Ie'n wir! Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw di, fy meistr y brenin, gadarnhau hynny.

37. Fel mae'r ARGLWYDD wedi bod gyda ti, fy mrenin, bydd gyda Solomon hefyd. A boed iddo wneud y frenhiniaeth honno hyd yn oed yn fwy llewyrchus na dy frenhiniaeth di, fy meistr, y Brenin Dafydd.”

38. Felly dyma Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada, a gwarchodlu'r brenin (Cretiaid a Pelethiaid), yn rhoi Solomon i farchogaeth ar ful y Brenin Dafydd a mynd i lawr i Gihon.

39. Wedyn dyma Sadoc yr offeiriad yn cymryd y corn o olew olewydd o'r babell ac yn ei dywallt ar ben Solomon a'i eneinio'n frenin. Yna dyma nhw'n canu'r corn hwrdd ac roedd pawb yn gweiddi, “Hir oes i'r Brenin Solomon!”

40. A dyma pawb yn ei ddilyn yn ôl i Jerwsalem, yn canu offerynnau chwyth a gwneud cymaint o stŵr wrth ddathlu nes bod y ddaear yn atseinio.

41. Roedd Adoneia, a'r holl bobl roedd e wedi eu gwahodd ato, wrthi'n gorffen bwyta pan glywon nhw'r sŵn. Pan glywodd Joab sŵn y corn hwrdd, dyma fe'n gofyn, “Beth ydy'r holl dwrw yna yn y ddinas?”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 1