Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 1:23-31 beibl.net 2015 (BNET)

23. Dyma ddweud wrth y brenin, “Mae Nathan y proffwyd yma”, a dyma fe'n mynd i mewn ac yn ymgrymu o flaen y brenin â'i wyneb ar lawr.

24. Yna dyma Nathan yn gofyn, “Fy mrenin, syr, wnest ti ddweud mai Adoneia sydd i fod yn frenin ar dy ôl di, ac mai fe sydd i eistedd ar dy orsedd di?

25. Achos heddiw mae wedi aberthu llwythi o wartheg, lloi wedi eu pesgi a defaid, ac wedi gwahodd dy feibion i gyd, arweinwyr y fyddin ac Abiathar yr offeiriad. A dyna ble maen nhw'n bwyta ac yn yfed gydag e ac yn gweiddi, ‘Hir oes i'r Brenin Adoneia!’

26. Ond wnaeth e ddim rhoi gwahoddiad i mi, dy was di, nac i Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, nac i dy was Solomon chwaith.

27. Ydy fy meistr, y brenin, wedi gwneud hyn heb ddweud wrthon ni pwy oedd i deyrnasu ar dy ôl di?”

28. Yna dyma'r Brenin Dafydd yn dweud, “Galwch Bathseba yn ôl yma!”A dyma hi'n dod ac yn sefyll o'i flaen.

29. Dyma'r brenin yn addo, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un sydd wedi fy achub i o bob helynt:

30. fel gwnes i addo i ti o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel, dw i'n dweud eto heddiw mai dy fab di, Solomon, sydd i fod yn frenin ar fy ôl i. Fe sydd i eistedd ar yr orsedd yn fy lle i.”

31. Dyma Bathseba'n plygu'n isel o flaen y brenin, a dweud, “Fy Mrenin Dafydd, boed i ti fyw am byth!”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 1