Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 1:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd y Brenin Dafydd wedi mynd yn hen iawn. Er iddyn nhw roi blancedi drosto roedd yn methu cadw'n gynnes.

2. Dyma'i weision yn dweud wrtho, “Meistr. Gad i ni chwilio am ferch ifanc i dy nyrsio di a gofalu amdanat ti. Bydd hi'n gallu gorwedd gyda ti, i gadw ein meistr, y brenin, yn gynnes.”

3. Felly, dyma nhw'n chwilio trwy wlad Israel i gyd am ferch ifanc hardd, a ffeindio Abisag o Shwnem, a mynd â hi at y brenin.

4. Roedd hi'n ferch hynod o hardd. A hi fuodd yn edrych ar ôl y brenin a'i nyrsio. Ond wnaeth e ddim cael rhyw gyda hi.

5. Yna dyma Adoneia, mab Dafydd a Haggith, yn dechrau cael syniadau ac yn cyhoeddi, “Dw i am fod yn frenin.” Felly, dyma fe'n casglu cerbydau a cheffylau iddo'i hun, a threfnu cael pum deg o warchodwyr personol.

6. (Wnaeth ei dad ddim ymyrryd o gwbl, a gofyn, “Beth wyt ti'n wneud?”. Roedd Adoneia yn ddyn golygus iawn, ac wedi cael ei eni ar ôl Absalom.)

7. Dyma Adoneia'n trafod gyda Joab, mab Serwia, a gydag Abiathar yr offeiriad. A dyma'r ddau yn ei gefnogi a'i helpu.

8. Ond wnaeth Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, na Nathan y proffwyd, na Shimei, na Rei, na gwarchodlu personol Dafydd ddim ochri gydag Adoneia.

9. Dyma Adoneia'n mynd i graig Socheleth sy'n agos i En-rogel, ac yn aberthu defaid, ychen a lloi wedi eu pesgi. Roedd wedi gwahodd ei frodyr i gyd a holl swyddogion y brenin oedd yn dod o Jwda.

10. Ond doedd e ddim wedi gwahodd Nathan y proffwyd, na Benaia, na gwarchodlu personol Dafydd, na Solomon ei frawd chwaith.

11. Dyma Nathan yn dweud wrth Bathseba, mam Solomon, “Wyt ti wedi clywed fod Adoneia, mab Haggith, wedi gwneud ei hun yn frenin heb i Dafydd wybod?

12. Gwranda, i mi roi cyngor i ti sut i achub dy fywyd dy hun a bywyd Solomon dy fab.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 1