Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3

Hen Destament

Testament Newydd

Titus 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Eithr llefara di'r pethau a weddo i athrawiaeth iachus:

2. Bod o'r hynafgwyr yn sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yng nghariad, mewn amynedd:

3. Bod o'r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni:

4. Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant,

5. Yn sobr, yn bur, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ddarostyngedig i'w gwŷr priod, fel na chabler gair Duw.

6. Y gwŷr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr:

7. Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da: a dangos, mewn athrawiaeth, anllygredigaeth, gweddeidd‐dra, purdeb,

8. Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; fel y byddo i'r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i'w ddywedyd amdanoch chwi.

9. Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i'w meistriaid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth; nid yn gwrthddywedyd;

10. Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth.

11. Canys ymddangosodd gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn;

12. Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron;

13. Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a'n Hiachawdwr Iesu Grist;

14. Yr hwn a'i rhoddes ei hun drosom, i'n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i'n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.

15. Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.