9. Canys gair yr addewid yw hwn; Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mab i Sara.
10. Ac nid hyn yn unig; eithr Rebeca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, sef o'n tad Isaac;
11. (Canys cyn geni y plant eto, na gwneuthur ohonynt dda na drwg, fel y byddai i'r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr o'r hwn sydd yn galw;)
12. Y dywedwyd wrthi, Yr hynaf a wasanaetha'r ieuangaf.
13. Megis yr ysgrifennwyd, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais.
14. Beth gan hynny a ddywedwn ni? A oes anghyfiawnder gyda Duw? Na ato Duw.
15. Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.
16. Felly gan hynny nid o'r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o'r hwn sydd yn rhedeg chwaith; ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau.
17. Canys y mae'r ysgrythur yn dywedyd wrth Pharo, I hyn yma y'th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot ti, ac fel y datgenid fy enw trwy'r holl ddaear.
18. Felly gan hynny y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y mynno y mae efe yn ei galedu.
19. Ti a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe eto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef?
20. Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a'i ffurfiodd, Paham y'm gwnaethost fel hyn?
21. Onid oes awdurdod i'r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur o'r un telpyn pridd un llestr i barch, ac arall i amarch?
22. Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i golledigaeth:
23. Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a ragbaratôdd efe i ogoniant,
24. Sef nyni, y rhai a alwodd efe, nid o'r Iddewon yn unig, eithr hefyd o'r Cenhedloedd?