Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 9:1-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y gwirionedd yr wyf fi yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, a'm cydwybod hefyd yn cyd‐dystiolaethu â mi yn yr Ysbryd Glân,

2. Fod i mi dristyd mawr, a gofid di‐baid i'm calon.

3. Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ôl y cnawd:

4. Y rhai sydd Israeliaid; eiddo y rhai yw'r mabwysiad, a'r gogoniant, a'r cyfamodau, a dodiad y ddeddf, a'r gwasanaeth, a'r addewidion;

5. Eiddo y rhai yw'r tadau; ac o'r rhai yr hanoedd Crist yn ôl y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.

6. Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi‐rym: canys nid Israel yw pawb a'r sydd o Israel.

7. Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant; eithr, Yn Isaac y gelwir i ti had.

8. Hynny ydyw, Nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had.

9. Canys gair yr addewid yw hwn; Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mab i Sara.

10. Ac nid hyn yn unig; eithr Rebeca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, sef o'n tad Isaac;

11. (Canys cyn geni y plant eto, na gwneuthur ohonynt dda na drwg, fel y byddai i'r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr o'r hwn sydd yn galw;)

12. Y dywedwyd wrthi, Yr hynaf a wasanaetha'r ieuangaf.

13. Megis yr ysgrifennwyd, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais.

14. Beth gan hynny a ddywedwn ni? A oes anghyfiawnder gyda Duw? Na ato Duw.

15. Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 9