Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 6:6-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef, er mwyn dirymu corff pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod.

7. Canys y mae'r hwn a fu farw, wedi ei ryddhau oddi wrth bechod.

8. Ac os buom feirw gyda Crist, yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef:

9. Gan wybod nad yw Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach; nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach.

10. Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw unwaith i bechod: ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw.

11. Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod: eithr yn fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

12. Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corff marwol, i ufuddhau ohonoch iddo yn ei chwantau.

13. Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod: eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw; a'ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.

14. Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi: oblegid nid ydych chwi dan y ddeddf, eithr dan ras.

15. Beth wrth hynny? a bechwn ni, oherwydd nad ydym dan y ddeddf, eithr dan ras? Na ato Duw.

16. Oni wyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i'r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd‐dod i gyfiawnder?

17. Ond i Dduw y bo'r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod; eithr ufuddhau ohonoch o'r galon i'r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi.

18. Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, fe a'ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder.

19. Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys megis ag y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder, i sancteiddrwydd.

20. Canys pan oeddech yn weision pechod, rhyddion oeddech oddi wrth gyfiawnder.

21. Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw o'r pethau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o'u plegid? canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth.

22. Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a'r diwedd yn fywyd tragwyddol.

23. Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 6