Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 5:9-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y'n hachubir rhag digofaint trwyddo ef.

10. Canys os pan oeddem yn elynion, y'n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef; mwy o lawer, wedi ein heddychu, y'n hachubir trwy ei fywyd ef.

11. Ac nid hynny yn unig, eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymod.

12. Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint â phechu o bawb:

13. Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf.

14. Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, ie, arnynt hwy y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr un oedd ar ddyfod.

15. Eithr nid megis y camwedd, felly y mae'r dawn hefyd. Canys os trwy gamwedd un y bu feirw llawer; mwy o lawer yr amlhaodd gras Duw, a'r dawn trwy ras yr un dyn Iesu Grist, i laweroedd.

16. Ac nid megis y bu trwy un a bechodd, y mae'r dawn: canys y farn a ddaeth o un camwedd i gondemniad; eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhad.

17. Canys os trwy gamwedd un y teyrnasodd marwolaeth trwy un; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosowgrwydd o ras, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy un, Iesu Grist.

18. Felly gan hynny, megis trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad; felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd.

19. Oblegid megis trwy anufudd‐dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid; felly trwy ufudd‐dod un y gwneir llawer yn gyfiawn.

20. Eithr y ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhâi'r camwedd: eithr lle yr amlhaodd y pechod, y rhagor amlhaodd gras:

21. Fel megis y teyrnasodd pechod i farwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 5