Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 5:3-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac nid felly yn unig, eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau; gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch;

4. A dioddefgarwch, brofiad; a phrofiad, obaith:

5. A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni, trwy'r Ysbryd Glân yr hwn a roddwyd i ni.

6. Canys Crist, pan oeddem ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol.

7. Oblegid braidd y bydd neb farw dros un cyfiawn: oblegid dros y da ysgatfydd fe feiddiai un farw hefyd.

8. Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni.

9. Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y'n hachubir rhag digofaint trwyddo ef.

10. Canys os pan oeddem yn elynion, y'n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef; mwy o lawer, wedi ein heddychu, y'n hachubir trwy ei fywyd ef.

11. Ac nid hynny yn unig, eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymod.

12. Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint â phechu o bawb:

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 5