11. Ac nid hynny yn unig, eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymod.
12. Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint â phechu o bawb:
13. Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf.
14. Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, ie, arnynt hwy y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr un oedd ar ddyfod.
15. Eithr nid megis y camwedd, felly y mae'r dawn hefyd. Canys os trwy gamwedd un y bu feirw llawer; mwy o lawer yr amlhaodd gras Duw, a'r dawn trwy ras yr un dyn Iesu Grist, i laweroedd.
16. Ac nid megis y bu trwy un a bechodd, y mae'r dawn: canys y farn a ddaeth o un camwedd i gondemniad; eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhad.