Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 4:5-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Eithr i'r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder.

6. Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd, gan ddywedyd,

7. Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a'r rhai y cuddiwyd eu pechodau:

8. Dedwydd yw y gŵr nid yw'r Arglwydd yn cyfrif pechod iddo.

9. A ddaeth y dedwyddwch hwn gan hynny ar yr enwaediad yn unig, ynteu ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder.

10. Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? ai pan oedd yn yr enwaediad, ynteu yn y dienwaediad? Nid yn yr enwaediad, ond yn y dienwaediad.

11. Ac efe a gymerth arwydd yr enwaediad, yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad: fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, yn y dienwaediad; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd:

12. Ac yn dad yr enwaediad, nid i'r rhai o'r enwaediad yn unig, ond i'r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad.

13. Canys nid trwy'r ddeddf y daeth yr addewid i Abraham, neu i'w had, y byddai efe yn etifedd y byd: eithr trwy gyfiawnder ffydd.

14. Canys os y rhai sydd o'r ddeddf yw yr etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a'r addewid yn ddi‐rym.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 4