19. Ac efe, yn ddiegwan o ffydd, nid ystyriodd ei gorff ei hun, yr hwn oedd yr awron wedi marweiddio, ac efe ynghylch can mlwydd oed, na marweidd‐dra bru Sara.
20. Ac nid amheuodd efe addewid Duw trwy anghrediniaeth; eithr efe a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw:
21. Ac yn gwbl sicr ganddo, am yr hyn a addawsai efe, ei fod ef yn abl i'w wneuthur hefyd.
22. Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
23. Eithr nid ysgrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn unig, ddarfod ei gyfrif iddo;
24. Ond er ein mwyn ninnau hefyd, i'r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw:
25. Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i'n cyfiawnhau ni.