Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 16:17-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch oddi wrthynt.

18. Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau'r rhai diddrwg.

19. Canys eich ufudd‐dod chwi a ddaeth ar led at bawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawen o'ch rhan chwi: eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at y peth sydd dda, ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg.

20. A Duw'r tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.

21. Y mae Timotheus fy nghyd‐weithiwr, a Lucius, a Jason, a Sosipater, fy ngheraint, yn eich annerch.

22. Yr wyf fi Tertius, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn, yn eich annerch yn yr Arglwydd.

23. Y mae Gaius fy lletywr i, a'r holl eglwys, yn eich annerch. Y mae Erastus, goruchwyliwr y ddinas, yn eich annerch, a'r brawd Cwartus.

24. Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll. Amen.

25. I'r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i, a phregethiad Iesu Grist, (yn ôl datguddiad y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd amdano er dechreuad y byd;

26. Ac yr awron a eglurwyd, a thrwy ysgrythurau'r proffwydi, yn ôl gorchymyn y tragwyddol Dduw, a gyhoeddwyd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ufudd‐dod ffydd:)

27. I Dduw yr unig ddoeth, y byddo gogoniant trwy Iesu Grist yn dragywydd. Amen.At y Rhufeiniaid yr ysgrifennwyd o Gorinth, gyda Phebe, gweinidoges yr eglwys yn Cenchrea.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 16