17. Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod; ond cyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glân.
18. Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn, sydd hoff gan Dduw, a chymeradwy gan ddynion.
19. Felly gan hynny dilynwn y pethau a berthynant i heddwch, a'r pethau a berthynant i adeiladaeth ein gilydd.
20. O achos bwyd na ddinistria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân; eithr drwg yw i'r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd.
21. Da yw na fwytaer cig, ac nad yfer gwin, na dim trwy'r hyn y tramgwydder, neu y rhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd.
22. A oes ffydd gennyt ti? bydded hi gyda thi dy hun gerbron Duw. Gwyn ei fyd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei dybied yn dda.
23. Eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwyty, efe a gondemniwyd, am nad yw yn bwyta o ffydd: a pheth bynnag nid yw o ffydd, pechod yw.