Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 14:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr hwn sydd wan yn y ffydd, derbyniwch atoch, nid i ymrafaelion rhesymau.

2. Canys y mae un yn credu y gall fwyta pob peth; ac y mae arall, yr hwn sydd wan, yn bwyta dail.

3. Yr hwn sydd yn bwyta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta; a'r hwn nid yw yn bwyta, na farned ar yr hwn sydd yn bwyta: canys Duw a'i derbyniodd ef.

4. Pwy wyt ti, yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? I'w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll, neu yn syrthio: ac efe a gynhelir; canys fe a all Duw ei gynnal ef.

5. Y mae un yn barnu diwrnod uwchlaw diwrnod; ac arall yn barnu pob diwrnod yn ogyfuwch. Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun.

6. Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod, i'r Arglwydd y mae yn ei ystyried; a'r hwn sydd heb ystyried diwrnod, i'r Arglwydd y mae heb ei ystyried. Yr hwn sydd yn bwyta; i'r Arglwydd y mae yn bwyta; canys y mae yn diolch i Dduw: a'r hwn sydd heb fwyta, i'r Arglwydd y mae heb fwyta; ac y mae yn diolch i Dduw.

7. Canys nid oes yr un ohonom yn byw iddo'i hun, ac nid yw'r un yn marw iddo'i hun.

8. Canys pa un bynnag yr ydym ai byw, i'r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw, i'r Arglwydd yr ydym yn marw: am hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym.

9. Oblegid er mwyn hyn y bu farw Crist, ac yr atgyfododd, ac y bu fyw drachefn hefyd, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a'r byw hefyd.

10. Eithr paham yr wyt ti yn barnu dy frawd? neu paham yr wyt yn dirmygu dy frawd? canys gosodir ni oll gerbron gorseddfainc Crist.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 14