Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 13:7-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Telwch gan hynny i bawb eu dyledion: teyrnged, i'r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; toll, i'r hwn y mae toll; ofn, i'r hwn y mae ofn; parch, i'r hwn y mae parch yn ddyledus.

8. Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd: canys yr hwn sydd yn caru arall, a gyflawnodd y gyfraith.

9. Canys hyn, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Na thrachwanta; ac od oes un gorchymyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, Câr dy gymydog fel ti dy hun.

10. Cariad ni wna ddrwg i'w gymydog: am hynny cyflawnder y gyfraith yw cariad.

11. A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu: canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom.

12. Y nos a gerddodd ymhell, a'r dydd a nesaodd: am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau'r goleuni.

13. Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen.

14. Eithr gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 13