Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 13:4-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni. Eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: oblegid gweinidog Duw yw efe, dialydd llid i'r hwn sydd yn gwneuthur drwg.

5. Herwydd paham anghenraid yw ymddarostwng, nid yn unig oherwydd llid, eithr oherwydd cydwybod hefyd.

6. Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hefyd: oblegid gwasanaethwyr Duw ydynt hwy, yn gwylied ar hyn yna.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 13