Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 13:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ymddarostynged pob enaid i'r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a'r awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio.

2. Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw: a'r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain.

3. Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i'r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna'r hyn sydd dda, a thi a gei glod ganddo:

4. Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni. Eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: oblegid gweinidog Duw yw efe, dialydd llid i'r hwn sydd yn gwneuthur drwg.

5. Herwydd paham anghenraid yw ymddarostwng, nid yn unig oherwydd llid, eithr oherwydd cydwybod hefyd.

6. Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hefyd: oblegid gwasanaethwyr Duw ydynt hwy, yn gwylied ar hyn yna.

7. Telwch gan hynny i bawb eu dyledion: teyrnged, i'r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; toll, i'r hwn y mae toll; ofn, i'r hwn y mae ofn; parch, i'r hwn y mae parch yn ddyledus.

8. Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd: canys yr hwn sydd yn caru arall, a gyflawnodd y gyfraith.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 13