28. Felly o ran yr efengyl, gelynion ydynt o'ch plegid chwi: eithr o ran yr etholedigaeth, caredigion ydynt oblegid y tadau.
29. Canys diedifarus yw doniau a galwedigaeth Duw.
30. Canys megis y buoch chwithau gynt yn anufudd i Dduw, eithr yr awron a gawsoch drugaredd trwy anufudd‐dod y rhai hyn;
31. Felly hwythau hefyd yr awron a anufuddhasant, fel y caent hwythau drugaredd trwy eich trugaredd chwi.
32. Canys Duw a'u caeodd hwynt oll mewn anufudd‐dod, fel y trugarhâi wrth bawb.
33. O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! a'i ffyrdd, mor anolrheinadwy ydynt!
34. Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd? neu pwy a fu gynghorwr iddo ef?
35. Neu pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn?
36. Canys ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth. Iddo ef y byddo gogoniant yn dragywydd. Amen.