Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 11:17-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Ac os rhai o'r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy, ac a'th wnaethpwyd yn gyfrannog o'r gwreiddyn, ac o fraster yr olewydden;

18. Na orfoledda yn erbyn y canghennau. Ac os gorfoleddi, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi.

19. Ti a ddywedi gan hynny, Torrwyd y canghennau ymaith, fel yr impid fi i mewn.

20. Da; trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, a thithau sydd yn sefyll trwy ffydd. Na fydd uchelfryd, eithr ofna.

21. Canys onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, gwylia rhag nad arbedo dithau chwaith.

22. Gwêl am hynny ddaioni a thoster Duw: sef i'r rhai a gwympasant, toster; eithr daioni i ti, os arhosi yn ei ddaioni ef: os amgen, torrir dithau hefyd ymaith.

23. A hwythau, onid arhosant yn anghrediniaeth, a impir i mewn: canys fe all Duw eu himpio hwy i mewn drachefn.

24. Canys os tydi a dorrwyd ymaith o'r olewydden yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth, a'th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olewydden; pa faint mwy y caiff y rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holewydden eu hun?

25. Canys nid ewyllysiwn, frodyr, eich bod heb wybod y dirgelwch hwn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun,) ddyfod dallineb o ran i Israel, hyd oni ddêl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn.

26. Ac felly holl Israel a fydd cadwedig; fel y mae yn ysgrifenedig, Y Gwaredwr a ddaw allan o Seion, ac a dry ymaith annuwioldeb oddi wrth Jacob.

27. A hyn yw'r amod sydd iddynt gennyf fi, pan gymerwyf ymaith eu pechodau hwynt.

28. Felly o ran yr efengyl, gelynion ydynt o'ch plegid chwi: eithr o ran yr etholedigaeth, caredigion ydynt oblegid y tadau.

29. Canys diedifarus yw doniau a galwedigaeth Duw.

30. Canys megis y buoch chwithau gynt yn anufudd i Dduw, eithr yr awron a gawsoch drugaredd trwy anufudd‐dod y rhai hyn;

31. Felly hwythau hefyd yr awron a anufuddhasant, fel y caent hwythau drugaredd trwy eich trugaredd chwi.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 11