13. Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd.
14. Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano? a pha fodd y clywant, heb bregethwr?
15. A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd, y rhai sydd yn efengylu pethau daionus!
16. Eithr nid ufuddhasant hwy oll i'r efengyl: canys y mae Eseias yn dywedyd, O Arglwydd, pwy a gredodd i'n hymadrodd ni?
17. Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw.
18. Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Yn ddiau i'r holl ddaear yr aeth eu sŵn hwy, a'u geiriau hyd derfynau y byd.
19. Eithr meddaf, Oni wybu Israel? Yn gyntaf, y mae Moses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wynfydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus y'ch digiaf chwi.
20. Eithr y mae Eseias yn ymhyfhau, ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn amdanaf.
21. Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd.