Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 10:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. O frodyr, gwir ewyllys fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw dros yr Israel, sydd er iachawdwriaeth.

2. Canys yr wyf fi yn dyst iddynt, fod ganddynt sêl Duw, eithr nid ar ôl gwybodaeth.

3. Canys hwynt‐hwy, heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw.

4. Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sy'n credu.

5. Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o'r ddeddf, Mai'r dyn a wnêl y pethau hynny, a fydd byw trwyddynt.

6. Eithr y mae'r cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn; Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef? (hynny yw, dwyn Crist i waered oddi uchod:)

7. Neu, pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hynny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddi wrth y meirw,)

8. Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae'r gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu;

9. Mai os cyffesi â'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi.

10. Canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 10