9. Y rhai a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch: a Duw'r heddwch a fydd gyda chwi.
10. Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegid i'ch gofal chwi amdanaf fi yr awr hon o'r diwedd adnewyddu; yn yr hyn y buoch ofalus hefyd, ond eisiau amser cyfaddas oedd arnoch.
11. Nid am fy mod yn dywedyd oherwydd eisiau: canys myfi a ddysgais ym mha gyflwr bynnag y byddwyf, fod yn fodlon iddo.
12. Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu: ym mhob lle ac ym mhob peth y'm haddysgwyd, i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder.
13. Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i.
14. Er hynny, da y gwnaethoch gydgyfrannu â'm gorthrymder i.
15. A chwithau, Philipiaid, hefyd a wyddoch yn nechreuad yr efengyl, pan euthum i ymaith o Facedonia, na chyfrannodd un eglwys â mi o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn unig.
16. Oblegid yn Thesalonica hefyd yr anfonasoch i mi unwaith ac eilwaith wrth fy anghenraid.
17. Nid oherwydd fy mod i yn ceisio rhodd: eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi.
18. Ond y mae gennyf bob peth, ac y mae gennyf helaethrwydd: mi a gyflawnwyd, wedi i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi; sef arogl peraidd, aberth cymeradwy, bodlon gan Dduw.
19. A'm Duw i a gyflawna eich holl raid chwi yn ôl ei olud ef mewn gogoniant, yng Nghrist Iesu.
20. Ond i Dduw a'n Tad ni y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
21. Anerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu. Y mae'r brodyr sydd gyda mi yn eich annerch.