Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 4:6-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Na ofelwch am ddim: eithr ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw.

7. A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.

8. Yn ddiwethaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd onest, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod, meddyliwch am y pethau hyn.

9. Y rhai a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch: a Duw'r heddwch a fydd gyda chwi.

10. Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegid i'ch gofal chwi amdanaf fi yr awr hon o'r diwedd adnewyddu; yn yr hyn y buoch ofalus hefyd, ond eisiau amser cyfaddas oedd arnoch.

11. Nid am fy mod yn dywedyd oherwydd eisiau: canys myfi a ddysgais ym mha gyflwr bynnag y byddwyf, fod yn fodlon iddo.

12. Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu: ym mhob lle ac ym mhob peth y'm haddysgwyd, i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder.

13. Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i.

14. Er hynny, da y gwnaethoch gydgyfrannu â'm gorthrymder i.

15. A chwithau, Philipiaid, hefyd a wyddoch yn nechreuad yr efengyl, pan euthum i ymaith o Facedonia, na chyfrannodd un eglwys â mi o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn unig.

16. Oblegid yn Thesalonica hefyd yr anfonasoch i mi unwaith ac eilwaith wrth fy anghenraid.

17. Nid oherwydd fy mod i yn ceisio rhodd: eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi.

18. Ond y mae gennyf bob peth, ac y mae gennyf helaethrwydd: mi a gyflawnwyd, wedi i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi; sef arogl peraidd, aberth cymeradwy, bodlon gan Dduw.

19. A'm Duw i a gyflawna eich holl raid chwi yn ôl ei olud ef mewn gogoniant, yng Nghrist Iesu.

20. Ond i Dduw a'n Tad ni y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

21. Anerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu. Y mae'r brodyr sydd gyda mi yn eich annerch.

22. Y mae'r saint oll yn eich annerch chwi, ac yn bennaf y rhai sydd o deulu Cesar.

23. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen.At y Philipiaid yr ysgrifennwyd o Rufain gydag Epaffroditus.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 4