Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 3:7-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist.

8. Ie, yn ddiamau, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd: er mwyn yr hwn y'm colledwyd ym mhob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr enillwyf Grist,

9. Ac y'm ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o'r gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Crist, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd:

10. Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefiadau ef, gan fod wedi fy nghydffurfio â'i farwolaeth ef;

11. Os mewn un modd y gallwn gyrhaeddyd atgyfodiad y meirw:

12. Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eisoes, neu fod eisoes wedi fy mherffeithio; eithr dilyn yr wyf, fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu.

13. Y brodyr, nid wyf fi yn bwrw ddarfod i mi gael gafael: ond un peth, gan anghofio'r pethau sydd o'r tu cefn, ac ymestyn at y pethau o'r tu blaen,

14. Yr ydwyf yn cyrchu at y nod, am gamp uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu.

15. Cynifer gan hynny ag ydym berffaith, syniwn hyn: ac os ydych yn synied dim yn amgen, hyn hefyd a ddatguddia Duw i chwi.

16. Er hynny, y peth y daethom ato, cerddwn wrth yr un rheol, syniwn yr un peth.

17. Byddwch ddilynwyr i mi, frodyr, ac edrychwch ar y rhai sydd yn rhodio felly, megis yr ydym ni yn siampl i chwi.

18. (Canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awron hefyd dan wylo yn dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt;

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 3