Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 3:19-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Diwedd y rhai yw distryw, duw y rhai yw eu bol, a'u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai sydd yn synied pethau daearol.)

20. Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd; o'r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist:

21. Yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael ni, fel y gwneler ef yr un ffurf â'i gorff gogoneddus ef, yn ôl y nerthol weithrediad trwy yr hwn y dichon efe, ie, ddarostwng pob peth iddo ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 3