Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 3:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Weithian, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd. Ysgrifennu yr un pethau atoch, gennyf fi yn wir nid yw flin, ac i chwithau y mae yn ddiogel.

2. Gochelwch gŵn, gochelwch ddrwgweithwyr, gochelwch y cyd‐doriad.

3. Canys yr enwaediad ydym ni, y rhai ydym yn gwasanaethu Duw yn yr ysbryd, ac yn gorfoleddu yng Nghrist Iesu, ac nid yn ymddiried yn y cnawd:

4. Ac er bod gennyf achos i ymddiried, ie, yn y cnawd. Os yw neb arall yn tybied y gall ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy:

5. Wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o genedl Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrëwr o'r Hebreaid; yn ôl y ddeddf yn Pharisead;

6. Yn ôl sêl, yn erlid yr eglwys; yn ôl y cyfiawnder sydd yn y ddeddf, yn ddiargyhoedd.

7. Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist.

8. Ie, yn ddiamau, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd: er mwyn yr hwn y'm colledwyd ym mhob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr enillwyf Grist,

9. Ac y'm ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o'r gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Crist, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd:

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 3