Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 2:9-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Oherwydd paham, Duw a'i tra‐dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw;

10. Fel yn enw Iesu y plygai pob glin, o'r nefolion, a'r daearolion, a thanddaearolion bethau;

11. Ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.

12. Am hynny, fy anwylyd, megis bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy ngŵydd yn unig, eithr yr awron yn fwy o lawer yn fy absen, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn.

13. Canys Duw yw'r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef.

14. Gwnewch bob dim heb rwgnach ac ymddadlau;

15. Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed, yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd;

16. Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymerais boen yn ofer.

17. Ie, a phe'm hoffrymid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf, a chydlawenhau â chwi oll.

18. Oblegid yr un peth hefyd byddwch chwithau lawen, a chydlawenhewch â minnau.

19. Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder atoch, fel y'm cysurer innau hefyd, wedi i mi wybod eich helynt chwi.

20. Canys nid oes gennyf neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi.

21. Canys pawb sydd yn ceisio'r eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu.

22. Eithr y prawf ohono ef chwi a'i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thad, y gwasanaethodd efe gyda myfi yn yr efengyl.

23. Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon, cyn gynted ag y gwelwyf yr hyn a fydd i mi.

24. Ac y mae gennyf hyder yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder atoch.

25. Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon atoch Epaffroditus, fy mrawd, a'm cyd‐weithiwr, a'm cyd‐filwr, ond eich cennad chwi, a gweinidog i'm cyfreidiau innau.

26. Canys yr oedd efe yn hiraethu amdanoch oll, ac yn athrist iawn, oblegid i chwi glywed ei fod ef yn glaf.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 2