Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 2:5-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Canys bydded ynoch y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu:

6. Yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw;

7. Eithr efe a'i dibrisiodd ei hun, gan gymryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion:

8. A'i gael mewn dull fel dyn, efe a'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau'r groes.

9. Oherwydd paham, Duw a'i tra‐dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw;

10. Fel yn enw Iesu y plygai pob glin, o'r nefolion, a'r daearolion, a thanddaearolion bethau;

11. Ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.

12. Am hynny, fy anwylyd, megis bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy ngŵydd yn unig, eithr yr awron yn fwy o lawer yn fy absen, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn.

13. Canys Duw yw'r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef.

14. Gwnewch bob dim heb rwgnach ac ymddadlau;

15. Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed, yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd;

16. Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymerais boen yn ofer.

17. Ie, a phe'm hoffrymid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf, a chydlawenhau â chwi oll.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 2