18. Oblegid yr un peth hefyd byddwch chwithau lawen, a chydlawenhewch â minnau.
19. Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder atoch, fel y'm cysurer innau hefyd, wedi i mi wybod eich helynt chwi.
20. Canys nid oes gennyf neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi.
21. Canys pawb sydd yn ceisio'r eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu.
22. Eithr y prawf ohono ef chwi a'i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thad, y gwasanaethodd efe gyda myfi yn yr efengyl.
23. Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon, cyn gynted ag y gwelwyf yr hyn a fydd i mi.
24. Ac y mae gennyf hyder yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder atoch.
25. Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon atoch Epaffroditus, fy mrawd, a'm cyd‐weithiwr, a'm cyd‐filwr, ond eich cennad chwi, a gweinidog i'm cyfreidiau innau.
26. Canys yr oedd efe yn hiraethu amdanoch oll, ac yn athrist iawn, oblegid i chwi glywed ei fod ef yn glaf.
27. Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau: ond Duw a drugarhaodd wrtho ef; ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, rhag cael ohonof dristwch ar dristwch.
28. Yn fwy diwyd gan hynny yr anfonais i ef, fel gwedi i chwi ei weled ef drachefn, y byddech chwi lawen, ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch.
29. Derbyniwch ef gan hynny yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd; a'r cyfryw rai gwnewch gyfrif ohonynt:
30. Canys oblegid gwaith Crist y bu efe yn agos i angau, ac y bu diddarbod am ei einioes, fel y cyflawnai efe eich diffyg chwi o'ch gwasanaeth tuag ataf fi.