13. Canys Duw yw'r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef.
14. Gwnewch bob dim heb rwgnach ac ymddadlau;
15. Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed, yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd;
16. Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymerais boen yn ofer.
17. Ie, a phe'm hoffrymid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf, a chydlawenhau â chwi oll.
18. Oblegid yr un peth hefyd byddwch chwithau lawen, a chydlawenhewch â minnau.
19. Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder atoch, fel y'm cysurer innau hefyd, wedi i mi wybod eich helynt chwi.
20. Canys nid oes gennyf neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi.
21. Canys pawb sydd yn ceisio'r eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu.
22. Eithr y prawf ohono ef chwi a'i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thad, y gwasanaethodd efe gyda myfi yn yr efengyl.
23. Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon, cyn gynted ag y gwelwyf yr hyn a fydd i mi.
24. Ac y mae gennyf hyder yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder atoch.
25. Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon atoch Epaffroditus, fy mrawd, a'm cyd‐weithiwr, a'm cyd‐filwr, ond eich cennad chwi, a gweinidog i'm cyfreidiau innau.
26. Canys yr oedd efe yn hiraethu amdanoch oll, ac yn athrist iawn, oblegid i chwi glywed ei fod ef yn glaf.
27. Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau: ond Duw a drugarhaodd wrtho ef; ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, rhag cael ohonof dristwch ar dristwch.
28. Yn fwy diwyd gan hynny yr anfonais i ef, fel gwedi i chwi ei weled ef drachefn, y byddech chwi lawen, ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch.