Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 2:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Od oes gan hynny ddim diddanwch yng Nghrist, od oes dim cysur cariad, od oes dim cymdeithas yr Ysbryd, od oes dim ymysgaroedd a thosturiaethau,

2. Cyflawnwch fy llawenydd; fel y byddoch yn meddwl yr un peth, a'r un cariad gennych, yn gytûn, yn synied yr un peth.

3. Na wneler dim trwy gynnen neu wag ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, gan dybied eich gilydd yn well na chwi eich hunain.

4. Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, eithr pob un ar yr eiddo eraill hefyd.

5. Canys bydded ynoch y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu:

6. Yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw;

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 2